Tithau’n dad??!! Fuaist fyth yn dad!
Fy mhlant i oedden nhw…
O, mi fuaist yno, yn bresennol
Ond yn dad???!
Na… cancr yn llygru cnawd fy mhlantos bach
A sugno’u holl daioni, nes bod dim byd ar ol.
A phan oedd dim byd ar ôl, mi droiaist at un arall.
Gan adael llai na dim ar ôl.
Ac o garedigrwydd, o ddaioni, o gariad......mi ddes innau a’u bodolaeth, nad oedd bellach yn bod....i ben.
A thithau’n sefyll yno, gan feiddio dweud mai ti oedd eu tad!?
Ti, yr un a’m gorfododd eu gwneud yn rhywbeth yn nhragwyddoldeb rhag bod yn ddim yn y byd-
A thrwy hynny gwneud dy fywyd di ond mymryn yn wacach...gwneud i ti diemlo mymryn o’r hyn a deimlaf i......fy mod i’n ddim, na gwraig, na mam ma merch, a’m croth yn gwegian dan wacter.
Mwytho? Cusanu? Wylo dros y cyrff a greaist ti dy hun?
Na. Does dim pwrpas gweled mwyach. Paid a dod yn agos atai. A paid a mentro dod yn agos atyn nhw. Mae’n rhy hwyr nawr. Ac mi rwyt ti’n deall pwy sydd ar fai, yndwyt?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment